O Gamddwr i Gairo — Hanes y Brodyr Davies bryan (1851–1935)
O Gamddwr i Gairo yw hanes y brodyr Davies Bryan — John, Robert, Edward a Joseph — o Lanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Cychwynnodd eu bywydau yn 1851 mewn rhes o fythynnod tlawd o'r enw Camddwr. Yn 1859 symudodd y teulu i ardal y pyllau plwm ym Mwynglawdd, ger Wrecsam. Ar ôl prentisiaeth hir, aeth John i weithio yng Nghaernarfon ym mhle agorodd ei siop frethyn ei hun yn 1880, ac ymunodd Edward ag ef yno. Athro oedd Robert a enillodd glod ym myd 'Y Pethe' fel bardd a cherddor. Aeth Joseph yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Aberystwyth.
Prentisiwyd en cefnder Samuel Evans yn Hughes a'i Fab, Wrecsam, ac yn 1882 atebodd hysbyseb am swydd gyda'r llywodraeth ac, yn 24 oed, cafodd ei hun ar ei fordd i Gairo fel Ysgrifennydd Cyfrinachol i'r Cynghorydd Ariannool. Yn 1886 dilynwyd ef yno gan ei gefndet John Davies Bryan. Taith stormus oedd honno a fyddai nid yn unig yn newid ei fywyd ei hun, ond yn llywio dyfodol ei deulu ac yn peri bobl gofio'r enw Davies Bryan am genedlaethau i ddod …
Yr Awdur
Mae Siân Wyn Jones wedi bod ar drywydd y brodyr Davies Bryan ers ei dyddiau yn Alexandria fel athrawes yn 1990–1. Fe i ganwyd yn Llundain a graddiodd yn y Gymraeg ym Mangor yn 1989 ac ers hynny bu'n teithio a llenydda. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn sawl cylchgrawn. Bu'n dysgu ym Mhrydain, Ewrop a Japan, a dysgu Braille hefyd fel rhan o'r Project Braille Cymraeg. Yn 2003 graddiodd am yr aildro mewn Celg Gain yn Wrecsam. Hoffai ymweld a'r Aifft eto — ond fel 'artist' y tro hwn.